P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon, ar ôl casglu cyfanswm o 4,637 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar hyn o bryd, nid yw rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae pawb siŵr o fod wedi gweld ceffyl hyfryd yn rhwym wrth gadwyn fer yn ymyl y ffordd, heb gysgod rhag y tywydd garw.

 

Ymddengys nad oes gan yr RSPCA bŵer i wneud dim am y peth! Pe bai ci wedi cael ei glymu yn ymyl ffordd brysur, byddai dicter. Mae'r ddau anifail yn bwysig!

 

Rhaid pasio deddfau i atal y creulondeb ofnadwy hwn i greaduriaid mor sensitif! Nid oes gan yr anifeiliaid hyn unrhyw ansawdd bywyd; mae'n sgandal llwyr.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Creodd yr elusen les HorseWorld ymgyrch #BreaktheChain gyda'r gobaith o newid y gyfraith. Er i’r arfer hwn gael ei alw’n greulon a pheryglus, mae’n aros yn gyfreithiol.

 

Ewch i'r wefan www.BreakTheChain.org.uk am ragor o wybodaeth.

 

Byddwn mor falch o Gymru pe bae’n arwain y ffordd i atal yr arfer ofnadwy hwn o'r diwedd. Mae'r RSPCA hefyd yn gwrthwynebu'r arfer, gan ddweud ei fod yn peryglu lles anifeiliaid mewn sawl ffordd.

 

Mae cod ymarfer Defra er lles ceffylau a chod ymarfer Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw rhwymo ceffylau yn ddull addas ar gyfer rheoli’r anifeiliaid. Rhaid gofyn pam, felly, nad yw'n anghyfreithlon?

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru